Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Cyllid Llywodraeth Leol (Diwygiadau a Dirymiadau Canlyniadol ac Amrywiol) (Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 2024

 

Pwynt Craffu Technegol 1:                     Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn na chafodd y pŵer yn adran 54(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 mewn gwirionedd ei drosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (fel y cyfeiriwyd ato ar y pryd) ac wedi hynny i Weinidogion Cymru.

Cyfeiriwyd at y pŵer galluogi hwn i wneud y ddarpariaeth yn rheoliad 11(4), sef hepgor erthygl 10 o Orchymyn Ad-drefnu Llywodraeth Leol (Cymru) (Cyllid) (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaethau Trosiannol) 1996. Diwygiodd yr erthygl hon adran 86 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, a diddymwyd wedi hynny gan adran 131 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014. Yn unol â hynny, nid yw'r diwygiad a wnaed gan erthygl 10 yn cael effaith mwyach.

Y bwriad oedd hepgor erthygl 10 at ddibenion hygyrchedd, fodd bynnag, nid oes unrhyw effaith i reoliad 11(4) ac felly mae erthygl 10 yn parhau i fodoli. Nid oes gan y ffaith bod yr erthygl hon yn parhau i fod ar y llyfr statud unrhyw effaith ymarferol.

Mae gweddill Rheoliadau 2024 yn intra vires.

 

Pwynt Craffu Technegol 3:                     Mae Llywodraeth Cymru yn fodlon bod drafftio rheoliad 23 yn cyflawni'r effaith a fwriadwyd.

Mewn perthynas â'r cyfeiriad at “Atodlen 1”, gan mai dim ond un Atodlen sydd i Orchymyn Llywodraeth Leol (Ardrethu Annomestig) (Diwygiadau Canlyniadol) (Lloegr) 2008, mae Llywodraeth Cymru o'r farn ei bod yn glir at ba Atodlen y cyfeirir.